Mae dogfennau’r Ymgynghoriad Swyddogol ar ddyfodol Ysgol Llangwyryfon wedi cael eu cyhoeddi bellach. Dilynwch y ddolen isod i ddod o hyd i’r dogfennau ar wefan y Cyngor:
Dogfennau Ymgynghori Llangwyryfon (Dogfen Ymgynghori ac Asesiad Effaith)
(Sylwch for dogfennau tair ysgol ar yr un dudalen, felly gwiriwch eich bod chi’n edrych ar y rhai cywir.)
Sut i Helpu
-
1. Pam?
-
2. Sut?
-
3. Pwy?
-
4. Beth?
-
Pryd?
-
Beth os ydw i’n gweithio i Gyngor Geredigion?
Os ydych chi eisoes yn gwybod pam bod angen eich help arnon ni, gallwch neidio i’r adran “2. Sut?”
Pwt o hanes
Ar yr 2il o Chwefror 2024, hysbysodd swyddogion Cyngor Ceredigion y Brifathrawes a Chadeirydd y Llywodraethwyr fod proses eisoes wedi’i chychwyn i gyflwyno “papur cynnig” i Gabinet y Cyngor yn argymell ymgynghoriad ar yr Ysgol gyda’r bwriad o’i chau. Bydd y broses hon, o adael iddi redeg ei chwrs heb ymyrraeth, yn arwain at gau’r Ysgol erbyn Medi 2025.
Ar y 10fed o Ebrill, cyflwynodd rhieni’r ysgol restr hir o resymau da pam y dewison nhw ddod â’u plant i Langwyryfon; pam mai’r ysgol yw calon y gymuned, a phryderon mawr am gael eu plant wedi eu cludo ymaith i ysgol, neu ysgolion anghyfarwydd mewn ardal wahanol heb unrhyw sicrhad o addysg o’r un safon uchel, ac fe bleidleision nhw’n unfrydol i ymladd yn erbyn y cynnig. Ar y 1af o Fai, pleidleisiodd cymuned yr ysgol yn unfrydol i gefnogi’r rhieni yn y frwydr.
Ar y 3ydd o Fedi pleidleisiodd Cabinet Cyngor Ceredigion i gynnal Ymgynghoriad Statudol ar ddyfodol yr ysgol, gydag argymhelliad i'w chau. Agorodd yr Ymgynghoriad ar y 14eg o Hydref, a bydd yn cau ar 26ain o Dachwedd.
Pam mae hyn yn effeithio arnoch chi?
Mae Ysgol Gynradd Llangwyryfon yn denu disgyblion o lefydd mor bell â Cross Inn, Llanddeiniol a Lledrod. Nid oes angen i chi fyw yn yr ardal gyfagos i fod yn gyfaill i’r Ysgol, does ond raid i chi rannu pryderon y rhieni am gludo plant ymhellach ac ymhellach i ddosbarthiadau mwy a mwy gyda llai a llai o athrawon. Neu rannu eu pryderon am ddirywiad yr iaith a diwylliant Cymraeg yn eu cadarnleoedd naturiol, neu rannu eu pryderon am effaith negyddol trafnidiaeth ychwanegol sylweddol ar yr amgylchedd. Neu rannu eu pryderon am doriadau parhaus i ddarparwyr gwasanaethau rheng flaen fel athrawon, neu rannu un o’r amryw bryderon eraill sydd wedi’u rhestru yn y llythyr templed o gefnogaeth sydd wedi’i gynnwys yma.
Os ydych chi erioed wedi hiraethu ar ôl ysgol a gafodd ei chau, yn adnabod rhywun sydd wedi, neu yn gwybod am rywun y gallai ei ysgol fod o dan fygythiad yn y dyfodol, ymunwch â’n hymgyrch nawr. Hyd yma, mae pob ysgol o dan fygythiad wedi gorfod ymladd dros ei hunan, ond mae graddfa’r bygythiad presennol yng Ngheredigion wedi amlygu’r ffaith fod cyfle yn cael ei golli – petai modd tynnu cefnogwyr pob ysgol ynghyd i helpu pob ysgol arall dan fygythiad, gallwn gynyddu fwyfwy swmp ein gwrthwynebiad gan wir adlewyrchu cryfder y teimladau yn erbyn yr erydu ansawdd sy’n digwydd i’n haddysg Gymreig.
Sut gallwch helpu
Cefnogwch yr Ysgol a’r gymuned drwy ymateb i'r Ymgynghoriad Statudol mewn e-bost neu lythyr at gyfeiriad swyddogol yr Ymgynghoriad. Gallwch lunio’ch ymateb drwy ddewis a dethol o’n hawgrymiadau parod, eu teilwra yn eich geiriau eich hun, neu drwy leisio’ch dadleuon eich hun gan gynnwys stori bersonol am sut y gwnaeth yr ysgol gyffwrdd â’ch bywyd chi mewn ffordd bositif. Dilynwch y camau yn yr adran “2. Sut?”.
Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth!
Plant, rhieni, llywodraethwyr, athrawon a chymuned Ysgol Llangwyryfon.
Drwy ymateb i'r Ymgynghoriad mewn e-bost
Cam 1: Agorwch neges e-bost newydd a rhowch deitl iddi (cofiwch gynnwys “Llangwyryfon”), e.e.
Ymateb i'r Ymgynghoriad ar Ysgol Llangwyryfon
Cam 2: Copïwch y rhestr gyfeiriadau e-bost o’r adran “3. Pwy?” i flwch “At:” eich e-bost;
Cam 3: Lawrlwythwch y ffuflen ymateb hon:
Ffurflen Ymateb i Ymgynghoriad Llangwyryfon (dogfen MS Word .docx)
Cam 4: Llenwch y ffurflen gan gynnwys eich neges, naill ai drwy gyfuno a chymysgu neu aralleirio rhai o’r awgrymiadau yn yr adran “4. Beth?”; neu, yn ddelfrydol, drwy ysgrifennu neges bersonol am sut y gwnaeth yr ysgol gyffwrdd â’ch bywyd chi mewn ffordd bositif. (Peidiwch â phoeni’n ormodol am berffeithio’r neges, nid yw hyd nac ansawdd y neges mor bwysig â’r ffaith eich bod chi’n ei hanfon hi.)
Cam 5: Arbedwch y ffurflen, atodwch hi at eich e-bost a chliciwch Anfon!
Drwy ymateb i'r Ymgynghoriad yn y post
Os nad ydych chi’n gyffyrddus yn ymateb drwy e-bost, neu fod gwell gennych ymateb yn ysgrfenedig - naill ai drwy ddefnyddio prosesydd geiriau neu â llaw - lawrlwythwch ac argraffu'r ffuflen ymateb hon:
Ffurflen Ymateb i Ymgynghoriad Llangwyryfon (dogfen MS Word .docx)
ac wedi ei llenwi, anfonwch hi at y Cyngor, i'r cyfeiriad isod.
Gallwch lunio’ch neges naill ai drwy gyfuno a chymysgu neu aralleirio rhai o’r awgrymiadau yn yr adran “4. Beth?”; neu, yn ddelfrydol, drwy ysgrifennu neges bersonol am sut y gwnaeth yr ysgol gyffwrdd â’ch bywyd chi mewn ffordd bositif. (Peidiwch â phoeni’n ormodol am berffeithio’r neges, nid yw hyd nac ansawdd y neges mor bwysig â’r ffaith eich bod chi’n ei hanfon hi.)
Prif Swyddog Addysg,
Gwasanaeth Ysgolion,
Ail Lawr,
Canolfan Rheidol,
Rhodfa Padarn,
Llanbadarn Fawr,
Aberystwyth,
SY23 3UE
Dulliau amgen
Os nad oes modd i chi ddilyn yr un o'r dullliau uchod, naill ai dewch i Ysgol Llangwyryfon ar nos Fercher y 6ed o Tachwedd rhwng 6:00 ac 8:00 yr hwyr, pan fydd cymorth ar gael i'ch helpu chi i baratoi ymateb, neu gysylltwch â ni am gymorth pellach:
Dyma gyfeiriadau e-bost Cynghorwyr Ceredigion yn ogystal â chyfeiriadau Aelod Ceredigion o’r Senedd, Elin Jones ac Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake.
[email protected];[email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]; [email protected]
Defnyddiwch ein hawgrymiadau isod i lunio llythyr hwy dros eich hunan, neu (yn well fyth) ysgrifennwch ymateb personol. (Rybudd pwysig: peidiwch â chopïo’r testun llawn heb ei newid os gwelwch yn dda, oherwydd bydd y Cyngor yn anwybyddu unrhyw negeseuon y maen nhw’n eu hystyried yn ddyblygiadau!)
Annwyl Gynghorydd,
Rwy’n ysgrifennu atoch i fynegi fy ngwrthwynebiad i gynlluniau Cyngor Ceredigion i adolygu dyfodol Ysgol Gynradd Llangwyryfon gyda’r bwriad o’i chau. Mae fy mhryderon fel a ganlyn:
Cymuned
- Yr ysgol yw calon y gymuned, nid yn unig i’r pentref, ond i’r ardal gefn gwlad yn ei chyfanrwydd. Mae hi wedi darparu addysg gynhwysfawr, wych i genedlaethau o blant ac mae’n ganolbwynt hanfodol i feithrin yr iaith Gymraeg.
- Ysgol Gynradd Llangwyryfon yw calon y gymuned ac heb ysgol gynradd leol bydd enaid yr ardal leol yn cael ei ddinistrio. Bydd teuluoedd ifanc yn symud o’r ardal er mwyn byw yn nes at ysgolion amgen, a bydd Llangwyryfon yn cael ei newynu o’r plant a’r bobl ifanc sy’n porthi ac adfywio cymdeithas. Bydd y pentref a’r ardal leol yn crebachu ac yn trigo.
- Mae Ysgol Llangwyryfon wedi ei hymgorffori yn gynhenid i’r gymdeithas leol. Mae’r Ysgol yn cynnal gweithgareddau sy’n hybu traddodiadau lleol a diwylliant Cymreig, ac mae’r gymuned yn darparu llwyfan i’r plant berfformio’n gyhoeddus, i ddysgu sgiliau cymdeithasol, ac i ymdrochi mewn hanes gyffredin a phrofiadau bywyd mewn amgylchedd fyw, gyfoes. Nid yw plant Llangwyryfon yn dysgu am hanes Cymru mewn llyfrau yn unig, maen nhw’n ei ddysgu oddi wrth yr union bobl a’i creodd.
- Mae ysgolion lleol fel Llangwyryfon yn cydblethu gyda phob sector o’r gymuned, o grwpiau mamau a babanod i glybiau garddio. Mae cau ysgolion gwledig yn dinistrio’r clymau hyn sy’n ein huno.
- Mae Ysgol Llangwyryfon yn un ddolen mewn cadwyn o adfywiad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Mae’r Cylch Ti a Fi yn cydlynu gyda’r Cylch Meithrin, ill dau yn digwydd yn neuadd y pentre, dafliad carreg o’r Ysgol. Mae gan y Cylch Meithrin gynllun pontio amlweddog sy’n arwain y plant yn naturiol i’r Ysgol Gynradd lle mae hanes lleol, diwylliant a’r iaith Gymraeg wedi’u hymgorffori yn y cwricwlwm. Cyn gynted ag y mae’r plant yn cyrraedd oedran ysgol uwchradd, maen nhw’n cael y cyfle i ymuno â Chlwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon lle maen nhw’n dysgu cymryd cyfrifoldeb am bethau fel trefnu gweithgareddau cymunedol, codi arian i elusennau, a pherfformio a chystadlu yn enw’r clwb, y pentref a’r ardal. Mae’r system hon yn gwreiddio pobl ifanc yn yr ardal, yn ennyn ymdeimlad dwfn o gymuned, ac yn atgyfnerthu’r seilwaith economaidd-gymdeithasol sy’n sicrhau’r genhedlaeth nesaf o blant. Byddai tynnu’r Ysgol Gynradd allan o’r gadwyn hon yn terfynu’r cylch cymeradwy hwn sydd wedi cael ei gynnal ers canrifoedd.
Yr Iaith Gymraeg
- Mae’r Ysgol yn un o nifer fach iawn sydd ar ôl lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol yr iard o hyd. Mae ysgolion “Cymraeg” eraill eisoes wedi ildio i’r Saesneg fel iaith chwarae a chymdeithasu, gyda’r Gymraeg wedi ei diraddio i iaith gwersi a gwaith cartref. Mae hyn yn dwyn oddi wrth y plant yr hyder i ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd go-iawn, a dyma’r rheswm y mae arnom yr angen am drefniadau fel y Siarter Iaith mewn ysgolion, Mentrau Iaith yn y gymuned a Chanolfan Dysgu Cymraeg i oedolion. Petai plant yn cael cadw eu Cymraeg yn y lle cyntaf, ni fyddai’n rhaid iddyn nhw ei hail-ddysgu pan yn hŷn.
- Mae llawer o deuluoedd di-Gymraeg yn dewis yn fwriadol anfon eu plant i ysgolion bach gwledig fel Llangwyryfon ac maen nhw’n barod i aberthu cyflogau uwch a chartrefi crand i wneud hynny, yn benodol oherwydd ansawdd a chadernid addysg iaith Gymraeg a diwylliant yr Ysgol. Mae hyd yn oed blant sydd heb unrhyw Gymraeg yn y cartref, yn gadael Ysgol Llangwyryfon yn siaradwyr rhugl â’r hyder i fynychu Ysgol uwchradd Gymraeg.
Ansawdd Addysg
- Yn ôl Estyn, y sefydliad sy’n arbenigo yn y maes, mae Llangwyryfon yn Ysgol dda iawn, ac mae hi wedi cynnal y lefel uchel hon yn gyson dros flynyddoedd lawer. Petai’r Ysgol yn cau, fyddai dim sicrwydd fod y plant yn cael mynd i Ysgol â’r un safonau uchel o addysg yn eu lle. Yn hytrach na thanseilio, dibrisio a chau’r Ysgol, dylai hi gael ei chlodfori a’i dathlu fel meincnod i ysgolion eraill ymdrechu i’w hefelychu.
- Mewn rhannau eraill o Geredigion, mae ysgolion bach iawn wedi cael eu cau oherwydd bod ysgol ardal, fawr, newydd gydag adnoddau o safon uchel wedi cael ei hadeiladu gerllaw. Nid oes unrhyw ysgol ardal yng ngogledd Ceredigion, heb sôn am ysgol newydd, i dderbyn y plant, yn hytrach, mae’r plant yn mynd i gael eu gwasgu i mewn i ysgolion ychydig-yn-llai-bach sy’n bodoli eisoes, gan gynyddu maint dosbarthiadau yn agos i’r uchafswm, a heb athrawon ychwanegol wedi’u haddo. Ym mha ffordd yn y byd y mae modd i hyn wneud unrhyw beth ond lleihau ansawdd addysg, nid yn unig i blant Llangwyryfon, ond hefyd i blant yr ysgol amgen?
Ansawdd Gofal Bugeiliol
- Mae dosbarthiadau llai, yn rhoi mwy o sylw i blant fel unigolion, yn magu hyder ac yn hybu cyfathrebu ar draws grwpiau oedran.
- Mae plant Ysgol Llangwyryfon yn blant hapus – maen nhw’n codi yn y bore ac yn edrych ymlaen at gael mynd i’r Ysgol – mae’r rhieni a’r plant eu hunain yn cadarnhau hyn. Mae nhw’n cael eu hadnabod a’u deall ar lefel unigol a phersonol gan eu hathrawon ac maen nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael eu trysori a bod yr athrawon yn ymddiried ynddyn nhw. Oherwydd maint bach y dosbarthiadau, gall yr athrawon adnabod newidiadau mewn ymddygiad ac ymrwymiad yn gyflym gan deilwra heriau a chymorth ar lefel fanwl ac unigol. Mae llawer o’r rhieni yn clodfori’r cryfder hwn yn yr Ysgol ac yn gofidio y byddai eu plant, mewn ysgol fwy o faint, yn llithro, yn cael eu gadael ar ôl , ac yn colli diddordeb gan arwain at lwybr a chanlyniadau gwahanol iawn. Does dim un plentyn yn cael ei adael ar ôl yn Ysgol Llangwyryfon.
Cenedlaethau’r Dyfodol
- Mae ysgolion bach gwledig yn cyfrannu’n uniongyrchol ac mewn ffordd unigryw at nifer o dargedau’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae athrawon a disgyblion Ysgol Llangwyryfon yn cymryd rhan weithredol mewn creu
-
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru iachach
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Cyllid
- Tra bo’r heriau sy’n wynebu Cyngor Sir Ceredigion wedi cael eu dogfennu’n helaeth, mae’n bryder pa mor annelwig yw unrhyw fudd ariannol a fyddai’n deillio o gau’r Ysgol, os o gwbl. Ar ôl cynnwys costau sylweddol cludo’r plant bellterau maith dros heolydd cul, troellog, tyllog cefn gwlad, ynghyd â chostau sylweddol diswyddo staff, a chyflogau hael iawn holl swyddogion yr Adran Addysg sydd wrthi fel lladd nadredd yn y cefndir yn gweithio ar y cynigion hyn, mae siawns go lew y bydd cau’r Ysgol yn costio mwy o arian i’r Cyngor nag a fyddai ei chadw ar agor.
Niferoedd Disgyblion
- Mae llawer o sôn am y gostyngiad ym mhoblogaeth Ceredigion yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig y nifer o fabanod a anwyd ers Covid. Ond, yn ardal Llangwyryfon, mae nifer y plant oedran ysgol, dros y pedair blynedd nesaf, yn cynyddu yn hytrach na gostwng. Mae galw, hyd yn oed, gan rieni ifanc sy’n byw y tu allan i dalgylch swyddogol yr Ysgol, sydd eisiau i’r Ysgol aros ar agor er mwyn iddyn nhw fedru dod â’u plant yma, er eu bod nhw’n byw yn nes at ysgolion eraill.
Ystyriaethau Gwleidyddol
- Yn genedlaethol, nid yw’n bolisi gan Plaid Cymru i gau ysgolion gwledig Cymreig, ac yn wir, mewn achosion diweddar fel cau Ysgol Gynradd Rhigos yn Nyffryn Cynon, Plaid Cymru oedd yn ymladd ochr yn ochr gyda’r gymuned i geisio arbed yr Ysgol. Os yw’r Cynghorwyr yn Ngheredigion sy’n honni eu bod nhw’n rhan o Blaid Cymru, yn barod i daflu ymaith ddarnau tyngedfennol o bolisïau eu Plaid eu hunain ar hap, pwy yn union ydyn ni fel etholwyr Ceredigion yn pleidleisio amdanyn nhw mewn gwirionedd?
Yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth
- Yng nghyd-destun strategaeth “Llwybr Newydd” Llywodraeth Cymru, eu Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth a’u cynllun strategol Carbon Sero-Net, sydd wedi’u seilio ar ymrwymiad i “leihau'r angen i deithio drwy ddod â swyddi, gwasanaethau a chyfleusterau yn agosach at y mannau lle mae pobl yn byw”, mae’n afresymol bod Cyngor Ceredigion yn dadwneud y cyfan drwy ddwyn swyddi, gwasanaethau ac adnoddau ymhellach i ffwrdd o’r mannau lle mae pobl yn byw, a’u gorfodi i gynyddu eu defnydd o drafnidiaeth, gan gynyddu’r allyriadau sy’n llygru er mwyn medru eu cyrraedd.
Y Cyd-destun Ehangach
- Nid yw Ysgol Llangwyryfon yn brwydro ar ei phen ei hun, yn hytrach, mae’n brwydro ochr-yn-ochr gyda thua saith safle addysg gynradd arall yng ngogledd Ceredigion (nid yw swyddogion y Cyngor yn fodlon cadarnhau unrhyw fanylion penodol am eu cynlluniau). Byddai hyn yn gadael gwagle addysgol eang yng nghalon Ceredigion o Aberystwyth i Lanbed ac o Aberaeron i Dregaron, gyda’r ffactorau a restrir uchod wedi eu lluosi yn wythblyg.
Am y rhesymau hyn, galwaf arnoch fel Cynghorydd i bleidleisio yn erbyn dilyn y llwybr hyn, a yn hytrach, eich bod chi’n archwilio dulliau amgen o sicrhau cyllid na fydd yn niweidio dyfodol ein plant yn y broses.
Yn gywir,
Bydd yr Ymgynghoriad Statudol yn cau ar y 26ain o Dachwedd, felly yr amser gorau i wneud hyn yw nawr, neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny!
Mae rhai o swyddi’r Cyngor, gan gynnwys Swyddogion Corfforaethol Arweiniol ac uwch, a rhai staff eraill, e.e. o fewn y Gwasanaethau Democrataidd, wedi eu cyfyngu yn wleidyddol (“politically restricted”). (Os ydych chi yn gwneud un o’r swyddi hyn, byddwch eisoes yn llawn ymwybodol o hynny.) Ni ddylai’r swyddogion hyn ddangos tuedd gwleidyddol. Ond:
“Mae hawl gan bob cyflogai arall (gan gynnwys staff ysgolion) i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd tebyg i’r rhai yr ydych yn awgrymu. ”.
- Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Ceredigion, 30/04/2024