Yn anffodus, mae angen atgoffa Cynghorwyr Ceredigion o bwysigrwydd a gwerth yr Ysgol, ac ysgolion tebyg.
Oes rhaid byw yn yr ardal i fod yn ffrind i’r Ysgol?
Nac oes – dim ond rhannu’r un gwerthoedd a phoeni am yr un bygythiadau i ddyfodol ein cenedl sydd ei angen.
Sut allwch chi helpu…?
Dyma rai o’r pethau oedd gan Estyn i’w dweud am yr Ysgol wedi eu hymweliad diwethaf:
Mae Ysgol Gynradd Llangwyryfon yn ysgol wledig Gymreig sy’n darparu addysg o safon uchel ac yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i blant ddysgu ac ymarfer eu Cymraeg yn y dosbarth ac ar yr iard. Cyfleoedd nad oes modd eu hefelychu mewn unrhyw ysgol gyfagos.
“Drwy hybu’r disgyblion i wneud defnydd llawn o’r Gymraeg ymhob agwedd o fywyd yr ysgol, mae’r staff yn sicrhau ethos Cymreig cryf iawn.
Estyn, 2022
“Mae’r disgyblion yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn ei defnyddio’n naturiol wrth sgwrsio a’i gilydd o fewn eu dosbarthiadau ac yn ystod amseroedd egwyl.“
Mae’r ysgol yn trochi plant Cymraeg ail iaith a di-Gymraeg yn yr iaith ac yn eu troi’n siaradwyr hyderus erbyn iddyn nhw gyrraedd oedran ysgol uwchradd.
“Mae’r disgyblion ifancaf sydd a’r Gymraeg yn newydd iddynt yn dysgu’r iaith yn gyflym.“
Estyn, 2022
Mae’r ysgol wedi ei phlannu yn ei chymuned ac mae perthynas symbiotig rhwng y ddwy – yr ysgol yn ganolbwynt cymdeithasol yn y gymuned, a’r gymuned yn rhoi llwyfan i’r plant ffynnu.
“Caiff y disgyblion brofiadau sy’n eu datblygu i fod yn ddinasyddion gwybodus am eu hardal a’u hetifeddiaeth ac yn falch o’u Cymreictod a’u cenedl.
Estyn, 2022
“Maent yn falch iawn o’u hysgol ac yn mwynhau bod yn rhan o’i chymuned . Gwerthfawrogant gyfleoedd i ymweld a’r ardal leol yn rheolaidd“